Cynulliad Cenedlaethol Cymru | National Assembly for Wales

Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg | Children, Young People and Education Committee

Ymchwiliad i Eiriolaeth Statudol | Inquiry into Statutory Advocacy Provision

 

SAP 16

Ymateb gan : Llywodraeth Cymru

Response from : Welsh Government

Cyflwyniad

 

1.            Lluniwyd y papur hwn i lywio Ymchwiliad y Pwyllgor i Wasanaethau Eiriolaeth Statudol, drwy roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyfredol mewn perthynas â’r Dull Cenedlaethol o ddarparu Gwasanaethau Eiriolaeth Statudol i Blant a Phobl Ifanc.

 

2.            Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i Lywodraeth Leol weithio mewn partneriaeth â darparwyr a phlant i gyflwyno cynigion i wella mynediad i wasanaethau eiriolaeth i blant sy’n derbyn gofal a phlant eraill sy’n agored i niwed ynghyd â gwella’r ddealltwriaeth o’r gwasanaethau hyn.

 

3.            Mae datblygu Dull Cenedlaethol yn cwmpasu amrywiaeth o elfennau a fydd yn sicrhau cysondeb mewn perthynas â hawliau, comisiynu, darpariaeth ac ymwybyddiaeth mewn perthynas â gwasanaethau eiriolaeth statudol yng Nghymru. Rwy’n llwyr gefnogi datblygu Dull Cenedlaethol ar gyfer eiriolaeth gan y bydd yn sicrhau bod plant sydd â hawl statudol i wasanaeth eiriolaeth yn ei gael.

 

4.            Rwy’n parhau i gymryd diddordeb personol mewn dilyn cynnydd datblygiad a gweithrediad y Dull Cenedlaethol, i sicrhau bod gwasanaethau eiriolaeth i blant a phobl ifanc yng Nghymru mor hygyrch ac effeithiol â phosibl.

 

5.            Mae angen gwasanaeth eiriolaeth ar nifer o unigolion i alluogi i ganlyniadau personol gael eu cyfathrebu a’u cyflawni. Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan yn glir y dylid darllen Rhan 10 o’r Cod Ymarfer ar Eiriolaeth, a gyflwynwyd o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, ochr yn ochr â’r codau ymarfer perthnasol a gyhoeddwyd o dan y Ddeddf i’w gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ystyried anghenion pobl o ran eiriolaeth lle bo awdurdod lleol yn cyflawni swyddogaeth benodol mewn perthynas â’r person hwnnw.

 

6.            Mae’r dystiolaeth hon yn amlinellu’r cynnydd a wnaed hyd yn hyn.

 

 

 

Tystiolaeth/Cefndir

 

7.            Rhoddodd gwahoddiad y Gweinidogion i Lywodraeth Leol gyflwyno model ar gyfer Dull Cenedlaethol o ddarparu gwasanaethau eiriolaeth statudol i blant sy’n derbyn gofal, plant mewn angen ac unigolion penodedig eraill yn ystod haf 2014 yr ysgogiad strategol angenrheidiol i gychwyn adolygiad cynhwysfawr o sut y caiff gwasanaethau eiriolaeth proffesiynol annibynnol eu comisiynu a’u darparu.

 

8.            Sefydlwyd Grŵp Arweinyddiaeth Strategol (GAS) wedi’i gadeirio gan Gyfarwyddwr y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio sy’n cynnwys cynrychiolwyr o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, Swyddfa’r Comisiynydd Plant a Chadeirydd Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar Eiriolaeth i nodi dull clir a chynaliadwy o sicrhau hawliau plant i eiriolaeth statudol.  

 

9.            Sefydlwyd Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar eiriolaeth i ddatblygu’r gwaith hwn, ac mae’n cynnwys cynrychiolwyr o Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, gan gynnwys Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a nifer o Benaethiaid Gwasanaethau Plant, Swyddfa’r Comisiynydd Plant, Llywodraeth Cymru, Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, CLlLC a Darparwyr Gwasanaethau Eiriolaeth, ac fe’i cadeirir gan Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru. 

 

10.         Cylch gwaith y Grŵp oedd edrych ar ddarparu Eiriolaeth Broffesiynol Annibynnol fel y’i comisiynwyd gan Awdurdodau Lleol ar gyfer Plant sy’n Derbyn Gofal, plant mewn angen ac unigolion eraill a nodir. Rhoddwyd y dasg iddo hefyd o nodi a datblygu elfennau allweddol o Ddull Cenedlaethol o ddarparu Gwasanaethau Eiriolaeth a’u darparu drwy awdurdodau arweiniol o fewn yr hyn a elwid yn flaenorol yn Grwpiau Cydweithredol Rhanbarthol Gwasanaethau Cymdeithasol, ond a elwir bellach yn Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol.  

 

11.         Egwyddor allweddol a oedd yn sail i’r grŵp oedd sicrhau cyfranogiad ac ymgysylltiad plant a phobl ifanc yn y camau allweddol yn ystod y gwaith o ddatblygu a chyflwyno’r Dull Cenedlaethol. Gwnaed hyn drwy ymgysylltiad yr aelodau â grwpiau plant a phobl ifanc ar lefelau lleol a rhanbarthol, a thrwy ymgynghori â nhw a chyfranogi ynddynt.

 

12.         Cynigiodd y Grŵp y dylid darparu’r model Cenedlaethol drwy awdurdodau arweiniol o fewn y Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol. Darparodd Llywodraeth Cymru yr adnodd ar ffurf secondiad, i ymgymryd â’r swydd rheolwr y prosiect.

 

Nododd a datblygodd y grŵp yr elfennau allweddol a ganlyn a gyflwynwyd mewn Cynllun Busnes;

 

·         Fframwaith Safonau a Chanlyniadau Cenedlaethol yn cynnwys dull gweithredu ar gyfer y ‘cynnig rhagweithiol’ o ran gwasanaethau eiriolaeth a nodwyd yn ‘Lleisiau Coll’ a mapio’r Fframwaith Safonau a Chanlyniadau Cenedlaethol i’r Datganiad Llesiant sy’n ategu’r Ddeddf. 

·         Dull Cenedlaethol – Manyleb Gwasanaethau Rhanbarthol

yn darparu manylebau cyson ar gyfer comisiynu gwasanaethau.

·         Dull Cenedlaethol - Templed Adrodd ar Berfformiad Rhanbarthol yn darparu’r dystiolaeth a’r ystadegau a nodwyd yn y Fframwaith Safonau a Chanlyniadau Cenedlaethol at ddibenion monitro safon a pherfformiad gwasanaethau.

·         Dull Asesu Ystod a Lefel (Capasiti Gwasanaeth) sydd, pan gaiff ei ddefnyddio ar gyfer y boblogaeth sy’n gymwys yn lleol a rhanbarthol, yn cynorthwyo i fesur gofynion capasiti gwasanaethau a’r costau cysylltiedig.

·         Fframwaith Comisiynu – wedi’i gysoni â’r Fframwaith Safonau a Chanlyniadau.

13.         Ym mis Mehefin eleni, ysgrifennodd Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a CLlLC at Aelodau’r Cabinet a’r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ym mhob awdurdod lleol i nodi’r goblygiadau ariannol posibl ar gyfer awdurdodau pe byddent yn mabwysiadu’r Dull Cenedlaethol. Gofynnwyd am eu barn ynghylch a oedd cefnogaeth i’r cynigion, fel y’u nodwyd yn yr achos busnes.

 

14.         Cyfarfu Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a CLlLC â Llywodraeth Cymru ar 3 Awst i drafod canlyniadau eu gohebiaeth. O ganlyniad, cytunodd Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a CLlLC i gynhyrchu Cynllun Gweithredu i ddatblygu’r Dull Cenedlaethol. 

 

15.         Ar 26 Medi, ysgrifennais at CLlLC i ofyn am gopi o’r Cynllun Gweithredu erbyn 30 Medi.

 

16.         Roedd fy ymateb blaenorol i’r ymchwiliad hwn yn nodi fy ymrwymiad parhaus i’r Dull Cenedlaethol a’r ffaith fy mod yn edrych ymlaen at weld y cynllun gweithredu, a fydd yn llywio fy nghamau nesaf. Gofynnodd y Pwyllgor gwestiynau penodol ynghylch y Dull Cenedlaethol o ddarparu Gwasanaethau Eiriolaeth Statudol ar gyfer Plant a Phobl Ifanc, yn ogystal â pha effaith y bydd Rhan 10 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 yn ei chael ar blant a phobl ifanc.

 

17.         Ceir copi o fy ymateb yn Atodiad 2, a gyhoeddwyd ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru fel papur tystiolaeth rhif SAP 09, fel un o’r 14 o ymatebion i’r ymchwiliad, a ddaeth i ben ar 11 Tachwedd.

 

18.         O’r dystiolaeth arall a gyflwynwyd, nodaf fod yr ymatebion yn cefnogi’r cyfle i wella’r ddarpariaeth o wasanaethau eiriolaeth i bob plentyn yng Nghymru er mwyn bodloni gofynion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.

 

19.         Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn ariannu MEIC, y gwasanaeth gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc. Adroddodd gwerthusiad annibynnol o MEIC a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru fod MEIC yn wasanaeth a werthfawrogir, sy’n effeithiol a hyfedrus ac y dylid ei barhau, ond myfyriodd hefyd ar  y cyfleoedd i gysoni MEIC â’r dirwedd ehangach o wasanaethau eiriolaeth. 

 

20.         Bydd cyflwyno Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, datblygu dull cenedlaethol a DEWIS (y porth ar-lein i ddinasyddion gael gofal a chefnogaeth) yn dylanwadu ar natur, cwmpas a lleoliad y gwasanaeth MEIC yn y dyfodol. Mae swyddogion yn ystyried yr opsiynau ar gyfer cysoni o fewn y dirwedd hon sy’n datblygu. 

 

21.         Yn ogystal, er mwyn cefnogi gweithredu gwasanaethau eiriolaeth, mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu dau brosiect o dan y Grant Trydydd Sector Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy.

 

22.         Mae Prosiect Edau Euraidd Age Cymru yn 3 blynedd o hyd ac mae’n anelu at:

a.    wella llesiant oedolion drwy eiriolaeth er mwyn rhoi llais cryfach iddynt

b.    gwella argaeledd gwasanaethau eiriolaeth i oedolion; a

c.    gweithio gydag awdurdodau lleol a darparwyr gwasanaethau i gefnogi datblygiad gwasanaethau eiriolaeth i oedolion a’r gwaith o’u comisiynu.

 

23.         Bydd prosiect Eiriolaeth Plant a Phobl Ifanc - Canlyniadau Cenedlaethol o Ddull Cenedlaethol Tros Gynnal yn rhoi cymorth i blant a phobl ifanc hyd at 24 oed drwy Gymru sy’n gymwys ar gyfer gwasanaethau eiriolaeth statudol yn unol â gofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ac yn cefnogi gweithredu’r Dull Cenedlaethol.

 

24.         Mae Tros Gynnal Plant eisoes wedi cynnal gweithdy ar eiriolaeth yn cynnwys pobl a phobl ifanc mewn digwyddiad ar y cyd rhwng y Cyngor Gofal a’r Rhwydwaith Plant sy’n Derbyn Gofal ym Mhrifysgol Glyndŵr ar gyfer gweithwyr gofal plant preswyl a gofalwyr maeth ar 15 Medi.  

 

25.         Mae’r Cyngor Gofal yn datblygu cynllun hyfforddi cenedlaethol i gefnogi gweithrediad Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, gyda’r diben cyffredinol o roi cymorth i’r gweithlu feithrin y wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen arno i weithredu’r ddeddfwriaeth newydd.

 

26.         Mae eiriolaeth yn elfen graidd o’r deunyddiau hyfforddi hyn. Gwahoddodd y Cyngor Gofal sefydliadau’r trydydd sector i wneud cais am arian o dan grant cyd-gynhyrchu i ddatblygu deunydd penodol ar eiriolaeth, fel y nodir yn Rhan 10 o’r Ddeddf. Roedd Age Cymru a Tros Gynnal Plant yn llwyddiannus.

 

Casgliadau

 

27.         Rydym yn parhau i weithio gyda phartneriaid ar sicrhau dull gweithredu ar y cyd. Ar 24 Tachwedd, cefais gyfarfod gyda Chymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, CLlLC a’r grŵp arweinyddiaeth strategol ehangach dros eiriolaeth i drafod y cynnydd a wnaed a’r cynigion ar gyfer gweithredu’r Dull Cenedlaethol.

 

28.         Byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch y cyfarfod hwnnw pan fyddaf yn mynd i’w gyfarfod ar 14 Rhagfyr.

 

29.         Bwriedir rhoi’r Dull Cenedlaethol o ddarparu Gwasanaethau Eiriolaeth Statudol yn gynnar y flwyddyn nesaf a nodir rhagor o wybodaeth yn y Cynllun Gweithredu diweddar gan lywodraeth leol.

 

 

                                    Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

Tachwedd 2016